Tasg Chwarae – a mwy o Chwarae
Beth yw pwrpas chwarae? Wel i chwarae siŵr iawn. Peidiwch â gorfeddwl, chwaraewch er mwyn chwarae!
Teitl y Dasg: Sardîns
Amcanion: Does dim pwrpas na nod, dim ond yr hwyl o gael chwarae!
Chwaraewyr: 3+ (Mwy o chwaraewyr = mwy o chwarae!)
O’r Bocs Chwarae: Does dim angen unrhyw beth, OND cyn dechrau:
- Dynodwch ardal fawr sydd â mannau cuddio
- Gwnewch yn siŵr bod pawb yn deall rheolau’r gêm a phwysigrwydd diogelwch.
Sut mae chwarae:
- Mae un chwaraewr yn mynd i guddio.
- Mae gweddill y grŵp yn cyfri (chi sydd i benderfynu at faint) ac yna’n rhannu i chwilio am y chwaraewr sy’n cuddio.
- Pan fydd chwaraewr yn ei ffeindio, mae’n ymuno â’r chwaraewr yn y man cuddio.
- Mae’r gêm drosodd pan fydd pawb wedi’u stwffio mewn un lle fel tin o sardîns!
- Y person cyntaf i ffeindio’r chwaraewr sy’n cuddio yw’r un sy’n cuddio yn y rownd nesaf.
