Chwarae yn yr Academi

Mae chwarae’n cael ei gydnabod fwyfwy yn offeryn grymus i’n sbarduno i feddwl yn wahanol, meithrin cydweithio, codi calon a chefnogi lles. Gall esgor ar chwilfrydedd, lleihau difrifoldeb y sefyllfa, neu greu cyfleoedd i gydweithio. Eto i gyd, mewn llawer o amgylcheddau proffesiynol mae’n aml yn cael ei danbrisio neu’n cael ei ystyried yn anghydnaws â gwaith. 

Crëwyd y cwis personoliaethau chwarae a’r tasgau chwarae cysylltiedig yn rhan o brosiect ymchwil Chwarae yn yr Academi yn 2025-2026, a ariannwyd trwy raglen GW4 Crucible. Mae’n defnyddio prifysgolion fel safleoedd i ymchwilio i sut mae chwarae eisoes yn bodoli ac yn gweithio – neu sut y gallai weithio – mewn sefydliadau amlhaenog. Beth yw’r ffyrdd amlwg, cynnil, annisgwyl, neu hyd yn oed chwyldroadol y mae pobl yn defnyddio chwarae yn eu swyddi proffesiynol? Pwy sy’n cymryd rhan mewn chwarae a pham? 

Beth yw eich Personoliaeth Gwaith-Chwarae?

Cymerwch y cwis i ddarganfod eich persona chwarae yn y gweithle – yna daliwch ati i ddarllen i ddatgloi cenhadaeth chwarae gyfrinachol!

Amser Chwarae!

Cyfres o dasgau cudd i greu rhagor o gyfleoedd i chwarae yn eich gweithle

Ar eich marciau, barod, ewch!

Cylchgrawn chwarae y gallwch ei argraffu eich hun

Ydych chi wedi gweld ein cwis chwarae a’n tasgau chwarae wedi’u hysbrydoli gan gylchgronau i bobl yn eu harddegau? Os ydych chi wir yn colli’r profiad o ddarllen cylchgrawn, rydych chi’n y lle iawn! Fel dewis arall i’r posteri A3 gyda chodau QR ar gyfer teithiau ar-lein, rydyn ni wedi fformatio holl gynnwys y cwis a’r tasgau fel cylchgrawn y gellir ei argraffu a’i rannu sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyfarwyddiadau argraffu

Rydyn ni’n argymell argraffu’r cylchgrawn hwn ar bapur A3 ac yna ei blygu yn ei hanner (maint tudalen A4 yn orffenedig). Dyluniwyd cynlluniau’r cylchgrawn ar gyfer y maint hwn. Er bod y tudalennau’n ddarllenadwy pan fyddan nhw wedi’u hargraffu ar bapur A4, mae’r testun yn dod allan yn fach iawn! Dylai dewis yr opsiwn “llyfryn” yn eich dewislen argraffu drefnu’r tudalennau’n gywir yn awtomatig – y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw argraffu, styffylu, a darllen!

Teimlo’n uchelgeisiol ac eisiau argraffu’r cylchgrawn hwn yn broffesiynol? Mae gennym fersiwn print o’r ffeil – cysylltwch â ni!

Aelodau tîm Chwarae yn yr Academi yw: 

Dr Alyssa Alcorn (Prif Ymchwilydd): Prifysgol Bryste 

Dr Hayley Trowbridge: Prifysgol Caerdydd 

Dr Enrique Uribe-Jongbloed: Prifysgol Caerdydd 

Dr Chloe Asker: Prifysgol Caerwysg 

Dr Michael Flexer: Prifysgol Caerwysg 

Dylunio graffig a chynllun: Sam Bryant, Tîm Dylunio, Gwasanaethau Argraffu Prifysgol Bryste 

Diolch yn fawr i’r holl gydweithwyr prifysgol a gyfrannodd eu syniadau a’u profiadau trwy “Siopau Chwarae” ym Mryste, Caerdydd, a Chaerwysg yn 2026. 

Cysylltwch â ni: play-project@bristol.ac.uk