F

Tasg Chwarae i Ddysgu

Efallai nad ydych chi’n hoffi cychwyn y chwarae, a’i fod yn well gennych chi wylio pobl eraill o’r ochr gyntaf… ond dyma dasg chwarae i chi. Gallwn ni gyd ddysgu drwy chwarae, felly rhowch gynnig arni. Pam lai ynde?!

Teitl y Dasg: Her Jig-so

Amcan: Archwilio a dysgu am gysyniad, pwnc neu broses newydd drwy wneud jig-so.

Chwaraewyr: 1+

O’r Bocs Chwarae: Jig-so (20-50 darn yn dibynnu ar yr amser sydd ar gael), post-its, pinnau ffelt

Sut mae chwarae:

  1. Dewiswch gysyniad, pwnc neu broses rydych chi’n awyddus i’w harchwilio neu ddysgu mwy amdani. Gallai hyn olygu atgyfnerthu eich gwybodaeth eich hun neu wneud rhywfaint o ddysgu rhwng cymheiriaid gyda rhai o’ch cyfeillion yn y gwaith. Er enghraifft, efallai eich bod yn dymuno dysgu am ddulliau ymchwil rhwng cymheiriaid, neu sut mae defnyddio’r llwyfan newydd i hawlio am dreuliau.
  2. Nodwch 5 – 15 her wahanol gallwch chi eu gosod ar sail eich cysyniad, eich pwnc neu eich proses i’ch helpu i’w deall yn well. Dyma rai enghreifftiau posib:
    • Esboniad Syml: Esboniwch y cysyniad, y pwnc neu’r broses mewn un frawddeg.
    • Rhoi Enghraifft: Rhowch enghraifft o’r byd go iawn o’r cysyniad, y pwnc neu’r broses.
    • Sefydlu Cysylltiad: Cysylltwch y cysyniad, y pwnc neu’r broses â rhywbeth cyfagos.
    • Pasio Ymlaen: Gosodwch her i chwaraewr arall mewn cysylltiad â’r cysyniad, y pwnc neu’r broses i’ch helpu chi i’w deall yn well.
    • Mynegi: Esboniwch neu ddangos y cysyniad, y pwnc neu’r broses drwy amnaid, ystum, symudiad neu ddarlun – cymysgedd o Pictionary a Charades!
  3. Ychwanegwch y rhain fel testun neu post-its ar gefn rhai o’r darnau pos.
  4. Dechreuwch roi’r jig-so at ei gilydd. Bob tro rydych chi neu gyd-weithiwr yn rhoi darn pos gyda her ar y cefn yn y lle iawn, rydych chi’n gwneud y dasg. Erbyn gorffen y jig-so, dylech chi fod yn deall y cysyniad, y pwnc neu’r broses yn well!

Gallwch chi ddewis gwneud y pos ar eich pen eich hun gyda phaned er mwyn cael amser chwarae a dysgu’n annibynnol, neu gymryd yr awenau a chychwyn y gêm gyda chyd-weithwyr.