Tasg Goroesi
Henffych gyd-gellweirwyr! Eich gweld yma heddiw mae’n braf. Hwyl y cawn ni! Mae’n rhaid i ni gellweirwyr ddod o hyd i ffyrdd chwareus o oroesi, yn enwedig mewn academi sy’n fwy a mwy biwrocrataidd, corfforaethol a gwrth-ddeallusol. Dewch i ni chwarae…
Teitl y dasg: Bingo Malu Ca**u
Amcanion: Rhaid i’r arweinydd sleifio geiriau ac ymadroddion ffasiynol i mewn i gyfarfod, diwrnod tîm, cynhadledd, diwrnod yn y Lab neu gasgliad arall yn y gweithle wrth i’r chwaraewyr eraill wrando allan amdanynt. Y person cyntaf i lenwi llinell ar eu cerdyn bingo malu ca**u yw’r enillydd. Ond o ran gemau goroesi, enillwyr (neu gollwyr) ydyn ni gyd yn y pen draw…
Chwaraewyr: 2+ ond fel eliffantod mewn blwch ffôn, gorau po fwyaf…
O’r Bocs Chwarae: Gallwch chi lawrlwytho cerdyn bingo malu ca**u wedi’i lenwi ymlaen llaw i ddechrau arni, ac mae cardiau 3×3 a 4×4 gwag hefyd.
Sut mae chwarae:
Hanfod goroesi yw defnyddio dulliau dirgel a chudd i sleifio llawenydd, undod a bywiogrwydd i ganol y lleddfol a’r llwm. Mae angen tanseilio i oroesi’r academi!
- Dewiswch gyfarfod neu ddigwyddiad ar gyfer y gêm.
- Dewiswch arweinydd. Dyma’r person a fydd yn sleifio’r ymadroddion bingo malu ca**u i mewn ym mha bynnag sefyllfa rydych chi’n ei dewis.
- Mae pob chwaraewr arall yn cael cerdyn bingo.
- Dim ond un rheol sydd: peidiwch â datgelu eich bod chi’n chwarae’r gêm. Os bydd unrhyw un sydd ddim yn chwarae yn sylweddoli beth sy’n digwydd, mae pawb yn colli… a dydyn ni ddim eisiau hynny!
Cofiwch mai’r syniad yw mynd yn ddigon pell i gael hwyl a goroesi’r diflastod, ond heb fynd mor bell eich bod chi’n peryglu eich hun. Mae angen troedio’r llwybr cul. Does dim angen mynd dros ben llestri.
Gallwch chi amrywio fel fynnwch chi:
- Fanila Plaen: Fel grŵp, dewiswch naw ymadrodd bingo malu ca**u. Mae pob chwaraewr yn eu hysgrifennu ar eu cerdyn bingo mewn trefn wahanol. Mae’r arweinydd yn dechrau cynnwys yr ymadroddion yn y cyfarfod, a’r chwaraewr cyntaf i lenwi llinell ar gerdyn bingo 3×3 yw’r enillydd. Gall yr enillydd roi gwybod i’r chwaraewyr eraill ei fod wedi ennill drwy ddefnyddio ymadrodd wedi’i ddewis ymlaen llaw yn y cyfarfod, e.e. ‘ddrwg gen i guro’r drwm am hyn ond allwn ni fynd yn ôl at rywbeth?’
- Fanila plaen, dau sgŵp: Yr un peth â fanila plaen, ond gyda cherdyn bingo 4×4 ac 16 ymadrodd. Amdani neu am adref!
- Cerdyn gwyllt y cellweiriwr: Y naill neu’r llall o ran yr uchod, ond dydych chi ddim yn cytuno ar yr ymadroddion ymlaen llaw. Mae’r arweinydd yn defnyddio ymadroddion ac mae’n rhaid i’r chwaraewyr eraill benderfynu beth sy’n falu ca**u bwriadol.
- Awyr las: Yn lle ymadroddion erchyll, beth am gynnwys geiriau a syniadau hoffech chi eu clywed yn amlach: meddwl yn feirniadol, dychymyg, chwarae!
Neu gallwch chi greu eich fersiwn eich hun. Amrywiaeth sy’n rhoi blas ar fywyd, felly dewch i ni flasu!
