C

Tasg Chwarae Gynhyrchiol

Felly, chi yw’r Tasgfeistr. Dyma weithgaredd chwareus, pwrpasol, a fydd yn eich helpu chi a phobl eraill i ddatrys problemau gyda’ch gilydd, a gwella eich gweithle. Amdani!

Teitl y Dasg: Maes Chwarae Problemau

Amcan: Defnyddio ymholiad chwareus fel dull o ddatrys problem yn y gweithle.

Chwaraewyr: 3 – 12

O’r Bocs Chwarae: Beiros, post-its, deunyddiau chwarae o ddifri fel blociau adeiladu, cyflenwadau collage, clai (dewisol) 

Sut mae chwarae:

  1. Nodwch y broblem rydych chi’n dymuno ei datrys a’i chyfleu fel cwestiwn chwarae a herio. Er enghraifft: Sut gallwn ni wneud y storfa i bawb yn hawdd ei defnyddio a gwneud y mwyaf o’r lle sydd ar gael? Sut gallwn ni symleiddio ein cyflwyniadau seminar? Sut gallwn ni addasu trefn ein cyfarfodydd wythnosol i’n helpu ni i ddathlu ein llwyddiannau?
  2. Rhowch ganiatâd i bobl chwarae drwy ychwanegu elfen chwareus at y gweithgaredd. Dyma rai enghreifftiau posib:
    • Rhaid i bob syniad fod dros ben llestri neu’n un gwamal.
    • Rhaid i syniadau ddechrau gyda “Dychmygwch fod…”
    • Smaliwch eich bod yn dylunio ar gyfer byd ffantasi.
    • Awgrymwch atebion gan ddefnyddio trosiadau.
  3. Ewch ati i greu pwll syniadau drwy ddweud wrth bawb am sgriblo neu sgetsio syniadau chwareus ar nodiadau gludiog, a’u rhoi mewn “pwll” canolog. Cofiwch atgoffa pobl na fydd y syniadau’n cael eu gwerthuso na’u sgorio, ac y dylid taflu pob syniad i’r pwll blith draphlith. (Sylwch: Gallech chi ddweud wrth bobl am ddefnyddio blociau adeiladu, clai, cyflenwadau collage neu ddeunyddiau chwarae o ddifri eraill i gynrychioli eu syniadau os ydych chi’n teimlo’n arbennig o chwareus!
  4. I gael gafael ar y cynigion call o ddoethineb chwareus, gofynnwch i bobl bigo un syniad yr un:
    • sy’n codi gwen
    • sy’n teimlo’n bosib
    • a fyddai’n gwella pethau go iawn.
  5. Newidiwch o’r chwareus i’r pwrpasol drwy nodi cam ymarferol bach mae modd i bobl ei gymryd yn ystod yr wythnos i roi cychwyn ar un o’r syniadau sy’n cael eu dewis. Er enghraifft:
    • Byddwn ni’n rhoi cynnig ar ddau funud o dacluso ar ddiwedd y dydd.
    • Dewch â phob cyfarfod i ben drwy ofyn i bawb rannu un llwyddiant bach o’r wythnos a fu.